Venue lior Venue Finder Logo

Ein lleoliadau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a’i deugain o adeiladau hanesyddol yn lleoliad rhyfeddol ar gyfer priodasau, derbyniadau a chynadleddau.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Saif yr amgueddfa mewn 100 erw wledig brydferth ar gyrion Caerdydd ar dir Castell godidog Sain Ffagan, y maenordy o ddiwedd yr 16eg ganrif. Mae’r adeilad rhestredig Gradd I cyfoethog, cain yn creu awyrgylch hudol ar gyfer diwrnod priodas perffaith.

Yma hefyd mae Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, a phaneli pren cyfoethog ei ystafelloedd, yn rhoi naws draddodiadol i seremonïau mewn lleoliad ar gyrion y brifddinas sy’n drwch o hanes. Mae’r Castell a Sefydliad y Gweithwyr wedi’u trwyddedi i gynnal seremonïau sifil.

Gyda’r gerddi ffurfiol cain, y coedwigoedd prydferth a’r adeiladau hanesyddol, mae Sain Ffagan yn un o leoliadau mwyaf unigryw a rhamantus Cymru ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Yn ogystal â chynnig lleoliad rhyfeddol o brydferth a gwasanaeth arlwyo gwobrwyog ar gyfer priodasau, mae nifer o westai a thai gwely-a-brecwast o fewn cyrraedd hwylus.

Name of roomTheatreCabaretBoardroomClassroomU-ShapeReceptionLunch/DinnerDinner DanceExhibition (sqm)
Castle Dining Room20165040
Oakdale Hall1205030020909070

 

Gwybodaeth Gweld lleoliad

cyfeiriad

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, De Morgannwg CF5 6XB

Uchafbwyntiau’r lleoliadau

venue highlight

2 ystafell

venue highlight

Yn eistedd hyd at 120

venue highlight

Lleoliad gwledig prydferth

Gwneud ymholiad

Dydw i ddim eisiau derbyn y wybodaeth, y newyddion na’r cynigion diweddaraf gan Venue Elior

Llenwch y ffurflen isod gyda chymaint o fanylion â phosibl a bydd aelod o’r tîm ar y safle yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion yn fwy manwl. Fel arall, i siarad â chynghorydd, ffoniwch ni ar: 0845 074 0604*

Ffurflen Ymholiadau Cam 1 o 2

Dewiswch eich dyddiadau

Dewiswch eich amser

Mae gen i ddiddordeb mewn...