Mae’r Brif Neuadd farmor glasurol a chain hon yn lleoliad gwych ar gyfer ciniawau cynadleddau, gwleddoedd, seremonïau gwobrwyo, digwyddiadau lansio a gwleddoedd priodas. Gellir llogi’r Neuadd ar ei phen ei hun neu gyda’r Orielau i roi cyfle i westeion gael golwg breifat ar gasgliadau’r Amgueddfa dros ddiod.
Adeiladwyd y Ddarlithfa ym 1932, ac mae’n llwyfan poblogaidd gan siaradwyr a pherfformwyr cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cynhadledd, cyfarfod cyhoeddus, darlith neu gyngerdd ar gyfer hyd at 300 o bobl. Gallwch logi’r Bwyty ac Ystafelloedd Oriel gyda’r Ddarlithfa ar gyfer cinio canol dydd, arddangosfeydd masnachol a lle i gymdeithasu neu gyda’r Brif Neuadd ar gyfer diodydd yn yr egwyl.
Mae Ystafell y Llys ar y balconi islaw cromen fawreddog yr Amgueddfa, yn lleoliad perffaith ar gyfer grwpiau bychan o hyd at 40.
Darperir arlwy yn fewnol gan dîm profiadol sy’n cynnig bwydlenni sy’n ysbrydoli a gwasanaeth di-ail. Caiff y bwyd ei baratoi ar y safle gan ddefnyddio cynhwysion lleol ffres ar bob cyfle posibl.
Name of Room | Theatre | Cabaret | Boardroom | Classroom | U-shape | Reception | Lunch/Dinner | Dinner Dance |
Reardon Smith Lecture Theatre | 340 | – | – | |||||
Court Room | 50 | 30 | 30 | 30 | 30 | 30 | ||
Grand Hall | – | – | – | 320 | 320 | 270 | ||
Galleries | – | – | – | 300 | ||||
Oriel Suite | 90 | 60 | 40 | 60 | 40 | 90 | 40 | |
Lloyd George | 12 | – | 10 | |||||
Dylan Thomas Room | 15 | – | 12 | |||||
Augustus & Gwen John Room | 50 | – | 30 |
8 ystafell
Defnydd arbennig o’r orielau celf
Arlwyo corfforaethol
Dydw i ddim eisiau derbyn y wybodaeth, y newyddion na’r cynigion diweddaraf gan Venue Elior
Llenwch y ffurflen isod gyda chymaint o fanylion â phosibl a bydd aelod o’r tîm ar y safle yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion yn fwy manwl. Fel arall, i siarad â chynghorydd, ffoniwch ni ar: 0845 074 0604*