Saif yr amgueddfa mewn 100 erw wledig brydferth ar gyrion Caerdydd ar dir Castell godidog Sain Ffagan, y maenordy o ddiwedd yr 16eg ganrif. Mae’r adeilad rhestredig Gradd I cyfoethog, cain yn creu awyrgylch hudol ar gyfer diwrnod priodas perffaith.
Yma hefyd mae Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, a phaneli pren cyfoethog ei ystafelloedd, yn rhoi naws draddodiadol i seremonïau mewn lleoliad ar gyrion y brifddinas sy’n drwch o hanes. Mae’r Castell a Sefydliad y Gweithwyr wedi’u trwyddedi i gynnal seremonïau sifil.
Gyda’r gerddi ffurfiol cain, y coedwigoedd prydferth a’r adeiladau hanesyddol, mae Sain Ffagan yn un o leoliadau mwyaf unigryw a rhamantus Cymru ar gyfer eich diwrnod arbennig.
Yn ogystal â chynnig lleoliad rhyfeddol o brydferth a gwasanaeth arlwyo gwobrwyog ar gyfer priodasau, mae nifer o westai a thai gwely-a-brecwast o fewn cyrraedd hwylus.
Enquire about this venueName of room | Theatre | Cabaret | Boardroom | Classroom | U-Shape | Reception | Lunch/Dinner | Dinner Dance | Exhibition (sqm) |
Castle Dining Room | – | – | 20 | – | 16 | 50 | 40 | – | – |
Oakdale Hall | 120 | 50 | 30 | 0 | 20 | 90 | 90 | 70 | – |
Dydw i ddim eisiau derbyn y wybodaeth, y newyddion na’r cynigion diweddaraf gan Venue Elior
Llenwch y ffurflen isod gyda chymaint o fanylion â phosibl a bydd aelod o’r tîm ar y safle yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion yn fwy manwl. Fel arall, i siarad â chynghorydd, ffoniwch ni ar: 0845 074 0604*